Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 10 Mehefin 2019
Amser:
13.20 -
15.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5456
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Dr Chris Jones, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton – Archwilydd Cyffredinol Cymru Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
2.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru a chan Dr Chris Jones, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau dilynol cleifion allanol ar draws Cymru.
2.2 Cytunodd Dr Andrew Goodall i:
· roi restr o'r gwelliannau y gofynnir i bob bwrdd iechyd eu gwneud
· rhannu'r adborth gan Fwrdd Gweithredu Offthalmoleg ar ganlyniadau'r mesurau newydd ar gyfer gofal llygaid
· rannu enghreifftiau o'r darnau o waith y mae clinigwyr yn arwain arnynt fel rhan o'r gwelliannau sy'n cael eu hysgogi gan y rhaglen gofal wedi'i gynllunio genedlaethol a'r byrddau arbenigol cysylltiedig.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.
5.1 Yn dilyn penderfyniad y Prif Weinidog i beidio â bwrw ymlaen â phrosiect ffordd liniaru'r M4, fel y'i cyhoeddwyd ar 4 Mehefin 2019, ac yn sgil cyhoeddi manylion am gostau'r prosiect, sydd bellach yn £114 miliwn, cytunodd yr Aelodau fod gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus rôl yn ymchwilio i'r gwariant hwn a chytunwyd ar wneud darn byr o waith ar y mater.